Ein gweledigaeth

Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.

Ein cenhadaeth

Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.

Newyddion + blogiau diweddaraf

Gweld y cyfan
31/05/2023 Newyddion
Cyhoeddi Dramodydd Preswyl Ifanc newydd Theatr Gen

Yn dilyn ei buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni, ry’n ni’n falch iawn o groesawu Elain Roberts i Theatr Gen fel Dramodydd Preswyl Ifanc nesaf y cwmni ar gyfer 2023/24.

02/06/2023 Newyddion
Cyhoeddi Ysgogwyr Prosiect 40°C

Heddiw, ry’n ni’n falch o gyhoeddi rhai o’r ysgogwyr gwadd fydd yn cymryd rhan yn ein cyfnod preswyl Gwreiddioli fel rhan o Brosiect 40°C, ein prosiect hirdymor ac uchelgeisiol sy’n mynd i‘r afael â’r argyfwng hinsawdd.

19/05/2023 Newyddion
Newid Diwylliant | Culture Change

Diolch i nawdd o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru a'r cwmnïau cenedlaethol celfyddydol eraill* yn lansio Newid Diwylliant | Culture Change – sef rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid y sector gelfyddydol Cymraeg i’w wneud yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes.

Lowri Cooke

Ail-ddiffiniwyd nid yn unig ein disgwyliadau ni o beth yw theatr yn yr iaith Gymraeg, ond cawsom hefyd archwilio gysyniadau amrywiol o genedlaetholdeb.