Ers 2019 mae Ar y Dibyn, dan arweiniad Iola Ynyr wedi cynnig gweithdai creadigol ledled Cymru, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i gefnogi rhai wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth.
Bwriad y prosiect yw annog creadigrwydd i brosesu ein profiadau o’r byd trwy weithdai a gweithgareddau creadigol i brocio ein dychymyg a rhyddhau syniadau. Y gobaith yw datblygu gwaith o’r galon sy’n bwerus, dewr ac uchelgeisiol, o fewn gofod diogel lle gellir mynegi ein hunain yn rhydd, heb feirniadaeth.
Mae diogelu llesiant ac iechyd meddwl ein cyfranogwyr a’n hartistiaid yn allweddol oherwydd natur emosiynol y prosiect, ac mae arbenigwyr iechyd proffesiynol ar gael i gefnogi ym mhob sesiwn, i roi cyngor neu i sgwrsio pan fod angen.
Gweithdai ar y gweill:
13/11/26 - Blaenau Ffestiniog
2/12/26 - Bangor
9/12/26- Bangor
16/12/26 - Bangor
3/12/26 - Caergybi
10/12/26 - Caergybi
27/2/27- Aberystwyth
3/3/27 - Aberystwyth
17/3/27 - Aberystwyth
24/3/27 - Aberystwyth
Cofrestrwch i fod yn rhan o brosiect Ar y Dibyn drwy ddolen Forms neu cysylltwch â Nia am fwy o wybodaeth: nia.skyrme@theatr.com
Adroddiad Gwerthuso 2024-25
https://wahwn.cymru/knowledge-bank/adroddiad-gwerthuso-ar-y-dibyn-24-25-theatr-cymru
Adroddiad Gwerthuso 2025-26
https://wahwn.cymru/knowledge-bank/adroddiad-gwerthuso-ar-y-dibyn-theatr-cymru-gan-dr-dr-nia-willams
Astudiaeth achos HARP
https://healthartsresearch.wales/cy/case-studies/ar-y-dibyn-on-edge
https://healthartsresearch.wales/case-studies/ar-y-dibyn-on-edge
Gallwch weld gwaith blaenorol prosiect Ar y Dibyn yma.
Diolch enfawr i cefnogaeth ein artistiaid, cwnselwyr a chyfieithwyr:
Alaw Griffiths, Ann Catrin Evans, Bethan Marlow, Cai Tomos, Carwyn Jones, Ceris Dyfi Jones, clare.e.potter, Dafydd Williams, Dr Nia Williams Elin Crowley,Elise Gwilym, Ffion Evans, Fflur Medi Owen, Gareth Evans-Jones, Iestyn Tyne, Katy Mai, Lois Elenid Jones, Lowri Gwyn - Lingo Cyf, Mared Llywelyn, Mari Elen, Mari Gwent, Meilyr Tomos, Meleri Wyn Davies, Mirain Fflur, Morfydd Hughes, Non Williams, Osian Gwynedd, Rhodri Trefor, Rhodri Williams, Rhys Ifans, Sioned Medi Evans, Sioned Lewis Wynford Elis Owen a’r Cynhyrchwyr Nia Wyn Skyrme a Gwenan Pennant Jones.
Diolch i’n noddwyr blaenorol a chyfredol:
Llenyddiaeth Cymru Adra (Tai), Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta), Meddwl.org, Grymuso Gwynedd drwy Fenter Môn, Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru.
A diolch i'n partneriaid cefnogol hefyd sef AM, Caniad, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, ICan/Gisda, Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Galeri Caernarfon, Gorwel, Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau (Isgraig, Llangefni a Bron Castell, Caernarfon), Gwasanaeth Prawf Gwynedd a Môn, Maes Ni, Kaleidoscope, Pontio Bangor, Shelter Cymru, Adferiad a WAHWN.
CYMORTH YCHWANEGOL
Cyffuriau neu Alcohol
DAN 24/7
Y cam cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnoch yw sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol a siarad â rhywun amdano. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o gyffur neu alcohol neu ddefnydd ffrind neu rywun annwyl i chi, lle da i ddechrau yw cysylltu gyda DAN 24/7 sy'n Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol i Gymru.
Mae'n llinell gymorth ddi-dal, dwyieithog a chyfrinachol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau.
Rhif ffôn: 0808 808 2234 (Ni fydd rhif ffôn DAN 24/7 yn ymddangos ar eich anfoneb eitemedig gartref)
Tecstiwch DAN ar 81066
Ewch i dan247.org.uk
Adferiad Recovery
01792 816600
Ebost: info@adferiad.org.uk
CAMFA
Yn cynnig sesiynau cwnsela os wedi dioddef o broblemau/ yn dioddef o broblemau yn ymwneud a chamddefnydd alcohol neu/a chyffuriau.
https://www.cais.co.uk/services/camfa/
Iechyd Meddwl
C.A.L.L Helpline (Llinell wrando a Chymorth Cymunedol)
Yn cynnig gefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
Mae gan unrhyw un sy'n bryderus am iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind, mynediad i'r gwasanaeth. C.A.L.L, yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth cyfrinachol.
Ffon di-dal 0800 132 737
Neu tecstiwch HELP i 81066
Cartrefi diogel yng Nghymru
Shelter Cymru
Yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru.
08000 495 495
Cyngor ar drais/ cam-drin domestig a thrais rhywiol
Byw Heb Ofn
Yn cynnig cyngor a chymorth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
0808 80 10 800
Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth
Testun:07860077333
Cefnogaeth i deuluoedd
Prosiectau Eraill
-
Ar y Dibyn
Mae prosiect Ar y Dibyn yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddibyniaeth – boed hynny’n bobl sy’n byw gyda dibyniaeth neu sy’n cefnogi pobl eraill gyda’u dibyniaeth – i ddod at ei gilydd a rhannu’r straeon hynny mewn ffyrdd creadigol.
-
ASHTAR Theatre x Theatr Cymru
Fel rhan o brosiect rhwng ASHTAR Theatre a Theatr Cymru, mae pobl ifanc rhwng 16 a 25 o Balestina a Chymru yn cymryd rhan mewn prosiect newydd draws-ddiwylliannol.
-
Criw Creu '24
Daeth Criw Creu yn ôl eto yn 2024!