24/11/2026

Gwenllïan ar daith genedlaethol yn hydref 2027

gwenllian

Mae Theatr Cymru, mewn cydweithrediad â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn falch o gyhoeddi taith genedlaethol Gwenllïan, drama newydd feiddgar gan Angharad Elen.

Mae Gwenllïan yn ail-ddychmygu bywyd tywysoges olaf Cymru, un o ffigurau mwyaf trasig ein hanes. Wedi’i lleoli ym Mhriordy Sempringham – lle carcharwyd Gwenllïan yn dilyn llofruddiaeth ei thad, Llywelyn ein Llyw Olaf – mae’r ddrama yn archwilio cyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru drwy brofiadau personol y menywod sydd wedi’u dileu o dudalennau hanes. Gan godi cwestiynau am bŵer, hunaniaeth a rhyddid, mae’n taflu goleuni newydd ar y brwydrau personol a gwleidyddol sy’n parhau i’n siapio heddiw.

Gyda mwy na 30 o berfformwyr ar y llwyfan, gan gynnwys cantorion o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, bydd y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn yn cynnig profiad theatrig unigryw i gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Dywedodd y dramodydd Angharad Elen:
“Mae hanes - neu ddiffyg hanes - tywysoges olaf Cymru wedi cydio yn fy nychymyg byth ers imi glywed amdani am y tro cyntaf. Fedra’i ddim aros i roi anadl einioes i Gwenllïan a’i gweld hi’n dod yn fyw ar lwyfannau ledled Cymru, a hynny hefo holl nerth ac enaid ein corws a’n dawnswyr cenedlaethol anhygoel yn ein helpu i ddweud ei stori. Am rodd!”

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru: 
"Mae hon yn foment hynod gyffrous i ni yn Theatr Cymru. Diolch i'r grant gan Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru, gallwn greu a theithio cynhyrchiad ar raddfa sy'n teimlo'n wirioneddol uchelgeisiol, ochr yn ochr â'n partneriaid rhagorol a'n cyd-gwmnïau cenedlaethol Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Tri chwmni cenedlaethol yn cydweithio'n strategol ac yn greadigol ar draws ffurfiau celf i gyflwyno stori Gymreig bwerus. Mae Gwenllïan yn gyfle i archwilio cyfnod hollbwysig yn ein hanes drwy lens newydd, gan amlygu lleisiau menywod sydd wedi’u hanwybyddu. Dwi methu aros i rannu sgript a stori wych Angharad Elen gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru."

Am y tro cyntaf, mae tri chwmni cenedlaethol yn dod ynghyd i greu a theithio cynhyrchiad theatrig ar y raddfa hon. Mae’r cydweithrediad yn garreg filltir arwyddocaol i’r sector diwylliannol yng Nghymru, gan gyfuno arbenigedd, talent ac adnoddau’r tri sefydliad i wireddu cynhyrchiad o uchelgais a graddfa eithriadol.

Bydd 20 o aelodau Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn rhan greiddiol o’r cynhyrchiad, gan ymuno â’r daith genedlaethol. Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr y Corws: 
"Rydym wrth ein bodd y bydd aelodau o Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn rhan o Gwenllïan, gan weithio ochr yn ochr â Theatr Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i ddod â'r stori bwerus hon o hanes Cymru yn fyw. Mae'n gyfle gwych i'n cantorion ddod â'u harbenigedd corawl ynghyd â theatr a dawns i adrodd stori sy'n haeddu cael ei chlywed. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu'r cynhyrchiad arbennig hwn â chynulleidfaoedd ledled Cymru."

Bydd dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru hefyd yn ymuno â’r daith, gan ddod â gwaith symud a dawns unigryw i’r cynhyrchiad. Dywedodd Bakani Pick-up, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru:
"Mae Gwenllïan yn gynhyrchiad uchelgeisiol i ni fod yn rhan ohono, ac rwy'n edrych ymlaen at fy nghyd-gynhyrchiad cenedlaethol cyntaf fel Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru. Fel dawnswyr, dydyn ni ddim yn aml yn cael gweithio'n ddwys gyda'r iaith Gymraeg fel 'gair llafar', felly rydym wrth ein bodd yn adeiladu ar ein perthynas hirsefydlog â Theatr Cymru a gweithio gyda Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i roi llais cyfoes i hanes Gwenllïan."

Mae’r cynhyrchiad yn bosibl diolch i grant gan Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Gwenllïan ymhlith y prosiectau cyntaf i dderbyn cefnogaeth o’r gronfa newydd hon, a sefydlwyd i gefnogi cynyrchiadau uchelgeisiol ar raddfa fawr sy’n arddangos creadigrwydd ac uchelgais artistig Cymru.