“Dydyn nhw ddim wedi llwyddo i dy ddileu di. Ddim eto p’run bynnag...”
Priordy Sempringham, 1327. Saith can mlynedd yn union yn ôl.
Mae Gwenllïan yn byw bywyd tawel fel lleian, heb wybod dim am y byd y tu hwnt i furiau'r priordy nac am ei gwir hunaniaeth fel etifedd coron Cymru. Ond bob nos, mae’n dioddef hunllefau arteithiol ac yn clywed lleisiau’n siarad mewn iaith ryfedd ac anghyfarwydd – lleisiau mae’n credu sy’n perthyn i’r diafol ei hun...
Pan mae newydd-ddyfodiad yn herio’r drefn, mae diogelwch bregus Gwenllïan yn dechrau datod. Wrth i hen gyfrinachau fygwth ddod i'r wyneb, caiff ei gorfodi i gwestiynu popeth mae wedi’i ddysgu am bwy ydy hi a ble mae'n perthyn.
Yn yr ail-ddehongliad epig hwn o fywyd Tywysoges Olaf Cymru, mae Gwenllïan yn taflu goleuni ar y menywod sydd wedi’u dileu o dudalennau hanes, gan archwilio themâu hunaniaeth, pŵer a pherthyn sy’n atseinio yr un mor gryf heddiw ag yr oeddent 700 mlynedd yn ôl.
Wedi’i ysgrifennu gan Angharad Elen a’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, mae Gwenllïan yn dod â’r stori ryfeddol hon i’r llwyfan mewn profiad theatrig unigryw gyda mwy na 30 o berfformwyr, gan gynnwys cantorion o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Cynhyrchiad Theatr Cymru, mewn cydweithrediad â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Mae’r cynhyrchiad hwn yn bosibl diolch i grant o Gronfa Cynyrchiadau Mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Canllaw Oed: 14+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed gan gynnwys noethni a chynnwys rhywiol, hunan-niweidio, trais a chyfeiriadau at erthyliad a therfynu beichiogrwydd.
Dyddiadau’r Daith
-
20 Medi 202719:30RhagddangosiadTheatr y Sherman, Caerdydd
-
21 Medi 202719:30RhagddangosiadTheatr y Sherman, Caerdydd
-
22 Medi 202719:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
23 Medi 202719:00Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
24 Medi 202719:30Perfformiad bywTheatr y Sherman, Caerdydd
-
28 Medi 202719:30Perfformiad bywTheatr y Lyric, Caerfyrddin
-
01 Hyd 202719:30Perfformiad bywPontio Bangor
-
02 Hyd 202719:30Perfformiad bywPontio Bangor
-
05 Hyd 202719:30Perfformiad bywTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
-
06 Hyd 202719:30Perfformiad bywTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
-
09 Hyd 202719:30Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
-
12 Hyd 202719:30Perfformiad bywCanolfan Glan-yr-afon, Casnewydd
-
15 Hyd 202719:30Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
-
16 Hyd 202719:30Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dramodydd Angharad Elen
Cyfarwyddwr Steffan Donnelly
Ffotograffydd Kirsten McTernan
Dylunydd Graffeg Kelly King
-
Angharad Elen
-
Steffan Donnelly
-
Gwenllïan ar daith genedlaethol yn hydref 2027
Bydd hanes coll tywysoges olaf Cymru yn cael ei adrodd o’r newydd mewn cynhyrchiad theatr mawreddog gan dri chwmni cenedlaethol.
-
Gwenllïan mewn datblygiad
Mae'r gwaith datblygu yn parhau ar ein cynhyrchiad Hydref 2027 – Gwenllïan – gyda deuddydd o waith R&D yng nghwmni grŵp o actorion arbennig.
-
Theatr Cymru yn derbyn grant Cynyrchiadau Mawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Ry’n ni’n falch iawn o rannu ein bod wedi derbyn grant o £125,000 drwy Gronfa Cynyrchiadau Mawr Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi ein cynhyrchiad Gwenllïan.