Mae Theatr Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ffilm Cymru Wales, Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn croesawu ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2027-28 ac yn rhannu ei bryderon ynghylch effaith cyllid disymud parhaus ar y sector celfyddydol.
Er ein bod yn cydnabod y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, nid yw setliadau disymud yn gyfystyr â sefydlogrwydd. Ar ôl mwy na degawd o bwysau chwyddiant, costau cynyddol a blynyddoedd o gyllidebau disymud neu doriadau, mae nifer o sefydliadau celfyddydol ledled Cymru bellach yn derbyn llai o gyllid cyhoeddus mewn termau arian parod nag yr oeddent yn ei dderbyn yn 2010.
Mae sefydliadau celfyddydol ledled Cymru wedi gweithio'n galed i gynyddu incwm masnachol, datblygu partneriaethau, denu buddsoddiad a gwella effeithlonrwydd. Mae llawryddion, artistiaid a sefydliadau diwylliannol wedi addasu'n barhaus i bwysau ariannol ac wedi canfod ffyrdd newydd o greu gwerth i gynulleidfaoedd a chymunedau. Eto i gyd, ni ddylid camgymryd gwytnwch am gynaliadwyedd. Ar ôl blynyddoedd o amsugno costau cynyddol a gweithredu gyda llai o adnoddau, mae nifer o sefydliadau bellach wedi cyrraedd terfyn yr hyn y gellir ei gyflawni heb leihau gweithgarwch, crebachu cyfleoedd i artistiaid a llawryddion, neu danseilio ansawdd, cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith. Mewn llawer o achosion, mae canlyniadau'r tanfuddsoddi parhaus eisoes yn amlwg. Mae sefydliadau wedi cau, swyddi wedi diflannu, ac mae gweithwyr creadigol medrus, llawryddion ac ymarferwyr wedi gadael y sector yn gyfan gwbl, gan wanhau seilwaith diwylliannol cenedlaethol sydd eisoes yn fregus a lleihau'r capasiti y mae llwyddiant creadigol Cymru yn y dyfodol yn dibynnu arno.
Mae buddsoddi yn y celfyddydau yn fuddsoddiad ym mhobl Cymru, ei hiaith, ei hiechyd, ei haddysg, ei heconomi a'i henw da yn rhyngwladol. Mae'n cefnogi cyflogaeth, yn datblygu sgiliau, yn cryfhau cymunedau, yn creu cyfleoedd i gyfranogi ac yn helpu i adrodd y straeon sy'n diffinio Cymru, gartref ac yn rhyngwladol. Mae ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi dangos bod pob £1 o gyllid cyhoeddus a fuddsoddir drwy'r celfyddydau yn creu gwerth economaidd amcangyfrifedig o £2.51 i economi Cymru. Mae hyn yn dangos nad cymhorthdal cyhoeddus yn unig yw buddsoddi mewn diwylliant, ond sbardun ar gyfer gweithgarwch economaidd a thwf.
Mae Cymru wedi hen ennill enw am ragori'n ddiwylliannol y tu hwnt i'w maint, gan gynhyrchu artistiaid, awduron, actorion, cerddorion, dawnswyr a gweithwyr creadigol proffesiynol y mae eu gwaith yn cael ei gydnabod a'i ddathlu ledled y byd. Mewn economi gynyddol ôl-ddiwydiannol, mae diwylliant yn un o asedau mwyaf pwerus Cymru, gan lunio'r ffordd y mae'r genedl yn cael ei gweld yn rhyngwladol a chreu gwerth economaidd drwy dwristiaeth, cyflogaeth, buddsoddiad mewnol a'r diwydiannau creadigol ehangach.
Mae'r sectorau creadigol a diwylliannol ymhlith yr ardaloedd hynny o'r economi sydd â'r potensial mwyaf i dyfu, ac eto nid yw buddsoddiad cyhoeddus wedi cyd-fynd â'u cyfraniad. Ar adeg pan ddylai Cymru fod yn manteisio ar un o'i chryfderau mwyaf, mae tanfuddsoddi parhaus yn bygwth tanseilio sector sy'n darparu manteision economaidd, cymdeithasol a rhyngwladol sy'n llawer mwy na lefel y buddsoddiad a gaiff. Felly, rydym yn cefnogi galwad Cyngor Celfyddydau Cymru am setliad ariannu cynaliadwy a fydd yn galluogi'r sector nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu, arloesi a chyflawni er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn croesawu'r uchelgais sydd wrth wraidd Strategaeth Diwylliant a Chwaraeon newydd i Gymru ac yn edrych ymlaen at gyfrannu'n adeiladol at ei datblygiad. Fodd bynnag, ni all strategaeth yn unig gynnal sector sydd wedi wynebu mwy na degawd o gyllid disymud a gostyngiad mewn buddsoddiad mewn termau real. Mae perygl i strategaeth heb fuddsoddiad ystyrlon droi’n gynllun ar gyfer sector nad yw bellach yn bodoli yn y ffurf yr ydym yn ei werthfawrogi heddiw. Mae sefydliadau diwylliannol, gweithwyr creadigol a'r seilwaith sy'n cynnal gweithgarwch artistig ledled Cymru eisoes dan bwysau sylweddol. Ar ôl pymtheg mlynedd o setliadau sefydlog a thoriadau, rhaid inni ofyn: ar ba bwynt y bydd y difrod i seilwaith diwylliannol Cymru yn rhy ddwfn i'w adfer?
Mae Theatr Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ffilm Cymru Wales, Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn parhau i ymrwymo i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid ledled y wlad. Ond, daw adeg pan na all gwytnwch, effeithlonrwydd ac arloesedd wneud iawn mwyach am flynyddoedd o danfuddsoddi. Mae gan Gymru'r uchelgais, y dalent a'r asedau diwylliannol i fod yn genedl greadigol o safon fyd-eang, ond ni ellir gwireddu'r weledigaeth honno ar adnoddau sy'n prinhau. Bydd y penderfyniadau a wneir yn y Gyllideb hon yn llunio dyfodol diwylliant yng Nghymru. Y cwestiwn yw a fydd cenedlaethau'r dyfodol yn etifeddu sector diwylliannol ffyniannus sy'n hyderus yn ei uchelgais, neu un sydd wedi ei grebachu gan flynyddoedd o danfuddsoddi.
Nawr yw’r amser i weithredu.